Llythyron adref
Rydyn ni'n danfon llythyron adref yn rheolaidd er mwyn eich hysbysu o'r yr hyn sydd yn digwydd yn yr ysgol.
Cliciwch ar unrhyw lythyr isod er mwyn ei lawrlwytho
Llythyr Presenoldeb o Gyngor Sir Casnewydd
Vegetable Biryani with a Cucumber Raita
Chinese Chicken Noodles with a Chilli and Asian Salad
Gwaith Cartref
Er mwyn arbed ar gostau argraffu a symud gyda'r oes rydyn ni'n defnyddio “Google Classroom” i bostio ein holl gwaith cartref. Os oes angen atgoffa o gofnod eich plentyn neu os ydych chi'n cael trafferth i fynd i'r gwaith cartref, rhowch wybod i'w athro/athrawes dosbarth.
Gwersi Cymraeg
Cynhelir y rhain bob dydd Mercher o 1yp tan 2:45yp. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r rhain, cysylltwch â John Woods yng Ngholeg Gwent.
Ti a Fi
Clwb cymdeithasol yw hwn i rieni a phlant o dan 3 oed. Maen nhw'n cwrdd bob Dydd Iau am 1yp. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'n haelod o staff Jade Blackbarow.
Clwb Carco
Mae'r clwb ar ôl ysgol yn cael ei redeg gan Menter Iaith Casnewydd. Pob ymholiad i'w wneud rhwng 3:30yp a 5:30yp o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ar 07763 001553.